AMDANAF - ABOUT

Hogyn o Pens'arwaen ydi Dylan yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Ynys Môn.


Fel Cerddor - mae Dylan wedi ymddangos ar y llwyfan ac yn y stiwdio gyda llawer o artistiaid unai fel canwr neu chwaraewr gitar. Mae wedi rhannu llwyfan gyda actiau syn cynnwys Chicas, Dylanwad, a Dafydd a Lisa.


Fel Cyfansoddwr - mae Dylan wedi ysgrifennu aml i gan boblogaidd yn cynnwys Paid Anghofio, Geiriau a Mab y Mynydd. Yn y 4 blynedd diwethaf mae dros 27 o ganeuon Dylan wedi eu recordio ar CD ar gyfer gynulleidfa Gymraeg gan artistiaid. Yn ystod 2017 bydd Dylan yn cyfansoddi mwy o gerddoriaeth ar gyfer cantorwyr yn cynnwys Harmoneli.


Fel Peiriannydd - mae Dylan wrth gefn datblygu Stiwdio Garij ar Ynys Mon , sydd bellach yn ran o rwydwaith o stiwdios bach Mixcraft Pro Studio ledled y byd. Mae ei waith digidol yn cael ei dderbyn gan gwmniau fel CDbaby a iTunes.


Fel Cynhyrchydd - yn 2017 fe rhyddhawyd ei Albwm unigol gyntaf o'r enw 'Sefaf'. Roedd Dylan wrth gefn cynhyrchur albwm yn ogystal a threfnur cerddoriaeth. Bellach mae Dylan ar drothwyl cyfansoddi a cynhyrchu gwaith ar gyfer actiau newydd.

Created by Dylan Williams